Cafodd daearyddiaethau ystadegol eu datblygu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dilyn Cyfrifiad 2001. Maent yn set o ddaearyddiaethau sy’n gweithio mewn haenau i gwmpasu Cymru gyfan. Yr haenau yw:
- Ardal Gynnyrch - OA (tua 400 o bobl);
- Ardal Gynnyrch Ehangach Is - LSOA (tua 1,600 o bobl);
- Ardal Gynnyrch Ehangach Ganol - MSOA (tua 7,700 o bobl);
- Ardal Gynnyrch Ehangach Uwch - USOA (tua 25,000 o bobl); ac
- Awdurdod lleol – ALl..
Mae InfoBaseCymru yn dangos data ar lefelau LSOA (ardal leol) ac awdurdod lleol.
Yn dilyn Cyfrifiad 2011 cafodd nifer fach o LSOAs eu newid i ganiatáu am dwf poblogaeth. Mae’r data yn InfoBaseCymru yn cael ei ddangos naill ai am LSOA 2011 neu LSOA 2001 yn dibynnu ar yr wybodaeth sydd ddiweddaraf.
I gael mwy o wybodaeth am ddaearyddiaeth ystadegol yng Nghymru cysylltwch ag ymholiadau@unedddatacymru.gov.uk.